TEITL |
Trosglwyddo swyddogaethau NHS Digital i NHS England
|
DYDDIAD |
12 Rhagfyr 2022 |
GAN |
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
|
Bydd Aelodau o’r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod wedi rhoi fy nghydsyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Ar 9 Tachwedd ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, y Gwir Anrh. Mark Barclay AS, ataf i geisio cydsyniad ar gyfer Rheoliadau’r Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau, Diddymu a Darpariaethau Trosiannol) 2023 fel sy’n ofynnol o dan adran 108(1)(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022.
Mae’r rheoliadau’n trosglwyddo swyddogaethau presennol o NHS Digital i NHS England, heb ddileu unrhyw ddarpariaethau statudol yn ymwneud â diogelu data pobl. Yn unol ag adran 103(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022, mae’r Ysgrifennydd Gwladol o’r farn bod trosglwyddo swyddogaethau NHS Digital i NHS England yn gwella’r broses o arfer swyddogaethau cyhoeddus, gan ystyried effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a darbodaeth a sicrhau atebolrwydd priodol i Weinidogion.
Gosodwyd y rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 15 Rhagfyr 2022 i ddod i rym ar 31 Ionawr 2023.